Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Cewch atebion i rai o’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn amlaf am ein proses ymgeisio a chyfweld yma. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni drwy e-bost yn: Moj-recruitment-vetting-enquiries@sscl.gse.gov.uk

Sut ydw i’n gwneud cais am swydd?

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i swydd wag sy’n addas i chi, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen gais ar-lein ac, mewn rhai achosion, cyflwyno CV. Bydd pob cyfathrebiad gennym ni yn cael ei anfon atoch drwy e-bost, felly bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch i fewngofnodi a gwneud cais.

Gallwch ddarllen manylion pellach yn y pecyn ymgeiswyr ar gyfer y rôl y mae gennych ddiddordeb ynddi, yn ogystal â chanllawiau llawn ar y wefan pan fyddwch yn gwneud cais.

Rwyf wedi cael cynnig cyfweliad, ond nid oes sesiwn ar gael ar y system. Beth ddylwn i ei wneud?

Mae sesiynau cyfweld yn cael eu lanlwytho i’r system ar sail dreigl, felly efallai bydd yn ymddangos fel na fydd unrhyw un ar gael pan fyddwch yn mynd i’r ganolfan gwneud cais. Dewch yn ôl i wirio am ragor o sesiynau cyfweliad bob dydd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost pan fydd sesiynau pellach ar gael. Allwn ni ddim gwarantu y byddwch yn cael eich dewis o leoliad ar gyfer y cyfweliad, ond bydd pob ymgeisydd yn cael sesiwn cyfweliad.

Rwyf wedi trefnu sesiwn ar gyfer y cyfweliad, ond nid wyf yn gallu mynychu mwyach. A allaf drefnu dyddiad arall?

Bydd angen i chi roi gwybod i’r tîm recriwtio drwy e-bost cyn gynted â phosibl. Byddant yn eich tynnu o’r sesiwn ac yn eich gwahodd i drefnu un arall. Os nad oes unrhyw sesiynau ar gael, byddant yn rhoi gwybod i chi os, a phryd y bydd rhagor o sesiynau cyfweld ar gael. Yn y cyfamser, daliwch ati i wirio’r system ac aildrefnwch eich cyfweliad cyn gynted â phosibl.

Ni allaf fod yn bresennol ar ddyddiadau’r cyfweliadau a gynigiwyd i mi. A oes mwy o ddyddiadau/lleoliadau ar gael?

Daliwch ati i wirio’r system a threfnwch sesiwn pan fyddant ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn ceisio sicrhau y trefnir cyfweliadau cyn gynted ag y bo modd ar ôl sifftio.

Rwyf ar wyliau dramor, a ni allaf fod yn bresennol ar ddyddiad y cyfweliad. A oes modd i mi gael cyfweliad drwy fideo?

Mae’n ddrwg gennym, ond am resymau diogelwch ni allwn gynnig cyfweliadau fideo ar hyn o bryd.

Rwyf wedi cael cynnig cyfweliad mewn un lleoliad, ond hoffwn weithio yn rhywle arall. Ydy hyn yn golygu na alla i weithio yn y lleoliad sydd orau gennyf?

Nid yw lle’r rydych yn cael eich cyfweld yn effeithio ar eich dewis o leoliadau gwaith. Mae gennym fwy o gapasiti yn Llundain i gynnal cyfweliadau, a dyna pam yr ydym yn cynnig mwy o gyfweliadau yno. Os ydych wedi rhestru eich dewis yn eich cais, bydd hyn yn cael ei ystyried os ydych yn llwyddiannus ac yn cael cynnig swydd.

Alla i gofrestru fy newis lleoliad pan fyddaf yn gwneud cais?

Dim ond mewn rhai lleoliadau y mae rhai o’n rolau ar gael. Os nad yw’r lleoliad a ffafrir yn cael ei restru yn y pecyn ymgeiswyr, yna nid yw’r rôl yn cael ei chynnig yno. Sylwch, ni allwn warantu bob amser y bydd yr holl ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cynnig gwaith yn y lleoliad sydd orau ganddynt.

Alla i hawlio costau teithio am fynychu fy nghyfweliad?

Ni allwn ad-dalu eich costau teithio oni bai ein bod wedi canslo eich cyfweliad. Mewn achosion o’r fath, byddwn yn anfon taenlen atoch i’w llenwi a’i dychwelyd atom gyda chopi o’ch derbynebau. Byddwn yn prosesu hyn cyn gynted ag y gallwn. Os nad yw’r taliad yn ymddangos yn eich cyfrif banc o fewn pedair wythnos, rhowch wybod i ni a gallwn fynd ar drywydd y taliad.

A gaf i siarad â deiliad y swydd wag?

Ar gyfer rhai o’n rolau, efallai y bydd yn bosibl i chi siarad â deiliad y swydd wag. Cysylltwch â’r tîm recriwtio a byddant yn cynghori a yw hyn yn bosibl ai peidio. Os felly, byddwn yn rhoi manylion cyswllt a dyddiadau ac amserau priodol i chi.

Alla i weithio o gartref? A oes modd i mi weithio oriau gwaith hyblyg?

Mae GLlTEM yn cefnogi gweithio’n hyblyg, ond bydd angen i chi gytuno ar eich lleoliad a’ch trefniadau gweithio gyda’ch rheolwr llinell cyn dechrau yn eich swydd. Os nad yw eich rôl wedi’i lleoli yn Llundain, mae’n bwysig nodi, ar gyfer rhai rolau, ei bod yn debygol y bydd angen teithio’n rheolaidd i Lundain.