Dogfen seren
Y Dull STAR
Pan fyddwn yn edrych ar geisiadau, rydym yn chwilio am enghreifftiau byd go iawn sy’n dangos bod gennych yr ymddygiadau sy’n ofynnol ar gyfer y rôl.
Beth yw’r dull STAR?
Mae’r acronym STAR yn golygu:
- Sefyllfa (Situation)
- Tasg (Task)
- Gweithred (Action)
- Canlyniad (Result)
Sefyllfa
Nodwch beth yw’r sefyllfa. Gwnewch yn siŵr eich bod yn disgrifio digwyddiad neu sefyllfa benodol, dim disgrifiad cyffredinol o beth rydych wedi’i wneud yn y gorffennol. Dylech hefyd sicrhau eich bod yn darparu digon o fanylion, ond ddim mwy na brawddeg neu ddwy.
Enghraifft: Pan ddechreuais fy rôl fel rheolwr y tîm recriwtio, wnes i sylwi ar unwaith nad oedd fy nhîm yn gwneud y defnydd gorau o’r system roedd gennym i alluogi inni gwblhau ymgyrchoedd recriwtio yn gyflym.
Tasg
Disgrifiwch yn fras yr hyn gofynnwyd ichi ei wneud, yn cynnwys eich cyfrifoldebau allweddol a’ch tasgau ar gyfer y sefyllfa.
Enghraifft: Roedd rhaid i mi adnabod pam nad oedd y tîm yn defnyddio’r system yn gywir ac yna cynllunio sut y gellir ei defnyddio’n effeithiol yn y dyfodol.
Gweithred
Amlinellwch yn union be wnaethoch chi i gwblhau’r dasg. Byddwch yn eglur, darparwch ddigon o fanylder a disgrifiwch yn union beth wnaethoch chi yn hytrach na chyflawniadau cyffredinol y tîm.
Enghraifft: Trefnais gyfarfod gyda fy nhîm i drafod sut maen nhw’n gweithio’n bresennol ac i gael dealltwriaeth o’r rheswm pam nad oedd y system yn cael ei ddefnyddio i’r eithaf. Ar ôl y cyfarfod gyda’r tîm, wnes i ddarganfod bod neb yn gwybod sut i ddefnyddio’r system yn iawn, felly nid oeddynt yn ei defnyddio o gwbl.
Penderfynais eistedd gyda’r tîm TG a drafftio rhaglen hyfforddi ar gyfer fy nhîm a’r rheolwyr recriwtio, er mwyn inni allu datrys y broblem yn syth. Wnes i arwain y broses o greu canllawiau, sydd nawr ar gael ar y dudalen mewnrwyd, fel bod staff newydd yn gallu cael gafael ar y canllawiau pan mae’n gyfleus iddyn nhw a sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o’r system.
Canlyniad
Dywedwch wrthym beth ddigwyddodd o ganlyniad i’ch gweithredoedd. Gwnewch yn siŵr eu bod yn berthnasol i’r sefyllfa wnaethoch chi ei disgrifio ar y dechrau.
Enghraifft: Mae’r rhaglen hon nawr wedi’i gwreiddio yn y sefydliad ac mae’n gwneud gwahaniaeth mawr i’r perfformiad yn gyffredinol a’r ffordd rydym yn rheoli’r broses o recriwtio pobl dalentog i’r sefydliad.
Mae dilyn dull a strwythur STAR wrth lenwi’ch cais yn eich helpu i wneud yr argraff gorau bosibl o’ch hun ac yn rhoi’r cyfle gorau ichi fod yn llwyddiannus. `
Datganiad Addasrwydd
Yn eich Datganiad Addasrwydd, dylech roi tystiolaeth glir o sut rydych yn bodloni gofynion y rôl fel yr amlinellir yn y swydd ddisgrifiad.
Argymhellwn eich bod yn adolygu ac yn deall gofynion allweddol y rôl ac yn defnyddio enghreifftiau cryf i ddangos sut rydych yn bodloni’r gofynion.
Proffiliau Llwyddiant
Cyn llenwi’ch cais a mynychu eich cyfweliad, neilltuwch amser i ddysgu am ein Proffiliau Llwyddiant ac Ymddygiadau, sef y fframwaith y mae’r Gwasanaeth Sifil yn ei ddefnyddio i asesu ymgeiswyr.
Cliciwch yma i weld ein Proffiliau Llwyddiant ac Ymddygiadau.
Cwestiynau Cyffredin
Sut ydw i’n gwneud cais am swydd wag?
Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i rôl sy’n addas ichi, gofynnir ichi lenwi ffurflen gais ar-lein. Efallai gofynnir ichi gyflwyno CV hefyd.
Yn ystod y broses, bydd ein holl gyfathrebu yn digwydd drwy e-bost, felly bydd arnoch angen cyfeiriad e-bost dilys i wneud cais.
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, byddwch yn gallu archebu dyddiad a slot amser trwy fewngofnodi i’r porth ymgeisio. Cyn y cyfweliad, byddwn yn anfon neges e-bost atoch i roi gwybod ichi sut y dylech baratoi. Bydd manylion y cyfweliad hefyd yn cael eu trafod yn yr hysbyseb swydd ar gyfer y rôl.
Cliciwch yma i gael rhagor o ganllawiau ar sut i wneud cais.
Rwyf wedi cael fy ngwahodd i gyfweliad, ond nid oes slotiau amser ar gael. Beth ddylwn i ei wneud?
Mae slotiau cyfweld yn cael eu llwytho ar y system fesul dipyn, felly efallai ni fydd rhai ar gael pan fyddwch yn mewngofnodi i’r ganolfan ceisiadau.
Dewch yn ôl yn ddyddiol i wirio a oes mwy o slotiau cyfweld. Byddwn yn rhoi gwybod ichi drwy neges e-bost pan fydd slotiau cyfweld newydd ar gael.
Ni allwn warantu y byddwch yn cael y lleoliad o’ch dewis ar gyfer cyfweliad (pan fydd cyfweliadau wyneb yn wyneb yn ailddechrau), ond bydd pob ymgeisydd yn cael slot cyfweld.
Rwyf wedi archebu amser ar gyfer fy nghyfweliad, ond nid wyf yn gallu dod bellach. Fydda i’n cael trefnu dyddiad arall?
Os na allwch fynychu cyfweliad mwyach, dylech roi gwybod i’r tîm recriwtio drwy e-bost cyn gynted â phosib.
Byddant yn eich dileu o’r slot ac yn eich gwahodd i archebu slot arall. Os nad oes unrhyw slotiau rhydd, byddwn yn rhoi gwybod ichi pan fydd mwy o slotiau cyfweld ar gael.
Yn y cyfamser, gwiriwch y system yn rheolaidd ac aildrefnwch eich cyfweliad gyn gynted ag y gallwch.
A gaf i nodi’r lleoliad o fy newis pan fydda i’n ymgeisio?
Mae rhai o’n rolau dim ond ar gael mewn rhai lleoliadau, ond mae rhai ohonynt yn cael eu hysbysu’n genedlaethol. Os nad yw’r lleoliad o’ch dewis wedi’i nodi yn y pecyn i ymgeiswyr, nid yw’r rôl yn cael ei chynnig y lleoliad hwnnw.
Mewn rhai achosion, lle bo rolau yn cynnig gwaith mewn sawl lleoliad, efallai gofynnir ichi nodi’r lleoliad o’ch dewis. Os ydych wedi nodi lleoliad o’ch dewis ar eich cais, byddwn yn ystyried hyn os cewch gynnig swydd.
Noder, ni allwn warantu y byddwch yn cael gwaith yn y lleoliad o’ch dewis.
A alla i hawlio treuliau teithio ar gyfer fy nghyfweliad?
Ni allwn ad-dalu eich costau teithio ond bai ein bod wedi canslo eich cyfweliad.
Os byddwn yn canslo eich cyfweliad, byddwn yn anfon taenlen treuliau ichi ei llenwi a’i dychwelyd atom gyda chopi o’ch derbynebau.
Byddwn yn prosesu hyn cyn gynted â phosib. Os na fydd taliad yn cyrraedd eich cyfrif banc o fewn pedair wythnos, rhowch wybod inni ac fe wnawn ni wneud ymholiadau yn ei gylch.
Ga’i siarad â’r deiliad swyddi gwag?
Ar gyfer rhai rolau, byddwch yn gallu siarad â’r deiliad swyddi gwag.
Os yr hoffech wneud hyn, cysylltwch â’r tîm recriwtio a byddant yn rhoi cyngor ar p’un a fydd hyn yn bosibl. Os yw’r deiliad swyddi gwag ar gael, byddwn yn darparu ei fanylion/manylion cyswllt ynghyd â dyddiadau ac amseroedd addas i gysylltu ag ef/hi.
A fydda i’n cael gweithio oriau hyblyg?
Rydym yn falch o gefnogi gweithio’n hyblyg yn GLlTEM. Os ydych eisiau trefniant gweithio’n hyblyg, bydd rhaid ichi gytuno hyn gyda’ch rheolwr llinell cyn i chi gychwyn yn y swydd.
Ga i weithio o adref?
Yn ystod y pandemig Covid-19, rydym wedi darparu ar gyfer rolau sy’n caniatáu gweithio o adref, ond mae llawer o’n rolau wedi’u lleoli yn ein hadeiladau llys a thribiwnlys a bydd gofyn ichi fod ar y safle.
Bydd lleoliad rôl wedi’i nodi yn yr hysbyseb swydd, ond gellir trafod trefniadau gwaith yn y cyfweliad hefyd. Rhaid i unrhyw ofynion ar gyfer gweithio o adref yn barhaol gael eu trafod a’u cytuno gyda’ch rheolwr llinell cyn iddynt gael eu cynnwys yn eich rôl.
Ga i gyflwyno cais wedi’i ddiwygio ar ôl i mi gyflwyno cais?
Na chewch. Ni allwch ddiwygio neu ailgyflwyno’ch cais unwaith y byddwch wedi’i wneud, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn hapus gyda’ch cais cyn ei gyflwyno.
A fydd rhaid i mi deithio i fynychu fy nghyfweliad?
Rydym yn cynnal cyfweliadau fideo cymaint ag sy’n bosibl ar hyn o bryd i leihau’r angen i deithio a mynychu cyfweliadau yn bersonol.
Os oes arnoch angen mynychu cyfweliad yn bersonol am unrhyw reswm, rhowch wybod i’r tîm recriwtio a byddwn yn rhoi cyngor ichi ar y camau nesaf. Os ydych yn ymgeisydd mewnol ac mae’n ofynnol i chi weithio ar safle GLlTEM, byddwn yn trefnu cyfweliad addas ichi o fewn eich diwrnod gwaith arferol.
Ga i wrthod mynychu cyfweliad fideo?
Os oes arnoch angen unrhyw Addasiadau Rhesymol ar gyfer cyfweliad fideo, yna mae croeso ichi gysylltu â’r tîm recriwtio, a fydd yn gwneud popeth y gallant i addasu i’ch cais.
Os nad oes gennych y dechnoleg i gefnogi cyfweliad fideo, byddwn yn gwneud ein gorau i addasu’r panel cyfweld ar eich cyfer. Fodd bynnag, ni allwn wastad gwarantu trefniant amgen addas. Noder, nid yw hyn yn berthnasol i geisiadau Addasiadau Rhesymol.
Pa gyfleoedd sydd ar gael mewn adrannau eraill y Llywodraeth o fewn y Gwasanaeth Sifil?
Mae’r Gwasanaeth Sifil yn cynnwys nifer enfawr o adrannau, broffesiynau ac asiantaethau arbenigol.
I gael rhagor o wybodaeth am weithio i adrannau eraill y Llywodraeth a pha rolau sydd ar gael, ewch i wefannau Civil Service Careers a Civil Service Jobs.