Y Broses Recriwtio

Proses Recriwtio Gwasanaethau Digidol a Thechnoleg GLlTEM

 

Y broses ymgeisio

I wneud cais am swydd a hysbysebir, cyflwynwch eich CV gan sicrhau ei fod yn dangos sut rydych yn bodloni’r sgiliau a’r profiad hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y rôl.

Rydym yn recriwtio gan ddefnyddio’r Fframwaith Proffiliau Llwyddiant a byddwn yn asesu eich Profiad, Sgiliau Technegol ac Ymddygiadau yn ystod y broses asesu. Bydd eich cais yn cael ei adolygu gan banel amrywiol yn erbyn manyleb y person, ac os ydych yn bodloni’r safon ofynnol, cewch eich gwahodd i gyfweliad panel.

Rydym yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau, felly mae croeso i chi gysylltu â chris.ward@justice.gov.uk

Ein proses gyfweld

Oherwydd pandemig Covid-19, mae’r rhan fwyaf o’n cyfweliadau yn cael eu cynnal o bell ar hyn o bryd gan ddefnyddio MS Teams.

Mae’r cyfweliad yn gyfle i chi ddangos i ni pam eich bod yn addas ar gyfer y rôl. Bydd yn cael ei gynnal gan banel amrywiol gan gynnwys aelodau o’ch proffesiwn yn y dyfodol i roi syniad i chi o sut beth yw gweithio yma.

Byddwch yn barod i ateb cwestiynau ar yr ystod o bynciau a drafodir yn y hysbyseb swydd. Byddwn yn gofyn cwestiynau penagored, gan roi cyfle i chi gynnwys tystiolaeth o sgiliau hanfodol, profiad ac ymddygiad proffiliau llwyddiant.

Os ydych yn gwneud cais am un o’n rolau technegol (Datblygwr/QA), gofynnir i chi hefyd ymgymryd â her/asesiad technegol byr, naill ai drwy raglennu pâr neu asesiad ar-lein.


Cyfweliadau fideo

Byddwch yn cael mynediad i’ch dolen gyfweliad drwy’r ganolfan gais (dyma’r system a ddefnyddiwyd gennych i drefnu’r slot). Dylai fod ar gael ychydig ddyddiau cyn y cyfweliad, ac rydym yn argymell ei brofi fel eich bod yn teimlo’n hyderus o’r broses ar y diwrnod. Pan fyddwch yn ei brofi ymlaen llaw, byddwch yn gweld neges yn dweud wrthych am ddod yn ôl ar yr amser a’r dyddiad a drefnwyd yn eich cyfweliad.

Ar y diwrnod:

Mewngofnodwch i’r alwad ychydig funudau cyn y disgwylir iddo ddechrau.

■ Gwrando a chael eich clywed – gwnewch yn siŵr bod y sain a’r meicroffon wedi’u gosod yn iawn fel y gall y cyfwelwyr eich clywed a gallwch chi eu clywed nhw.

■  Gwisgwch yn briodol – gwisgwch fel y byddech yn gwisgo ar gyfer cyfweliad wyneb yn wyneb.

Ystyriwch eich amgylchedd. A yw’n dawel? A oes rywbeth y gall dynnu eich sylw? A yw’r goleuadau’n dda ac a yw’r gwelededd yn glir? Beth fydd y cyfwelwyr yn ei weld y tu ôl i chi? Gwnewch yn siŵr mai chi yw’r prif ffocws heb i ddim dynnu eich sylw y tu ôl i chi.

■ Gwnewch yn siŵr na fydd unrhyw beth yn tynnu eich sylw. Caewch raglenni eraill ar eich dyfais. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw hysbysiadau a fydd yn gwneud sŵn. Diffoddwch eich ffôn.

Gwnewch yn siŵr na all unrhyw beth darfu arnoch. Os oes pobl eraill o gwmpas, rhowch wybod iddynt eich bod yn cael eich cyfweld ac nad ydych ar gael. Sicrhewch na fydd anifeiliaid anwes yn tarfu arnoch.

  Defnyddio nodiadau. Gallwch ddefnyddio nodiadau ond gwnewch yn siŵr eu bod yn nodiadau atgoffa byr fel y gallwch gadw eich ffocws ar eich cyfwelwyr, mae hyn yn osgoi rhag iddynt edrych ar dop eich pen wrth i chi ddarllen.

■ Pan fydd y cyfwelwyr yn siarad, gwnewch yn siŵr eich bod yn canolbwyntio ar y camera ac yn dangos eich bod yn gwrando ar  y cwestiynau. Ceisiwch osgoi edrych ar eich hun ar y sgrin gan fod hyn yn golygu nad ydych yn gwneud cyswllt llygaid da â’ch cyfwelwyr. Oedwch a gwiriwch yn ystod eich atebion bod y panel yn dal i gymryd rhan ac yn gwrando.

■ Meddyliwch  am iaith eich corff. Mewn cyfweliad rhithiol, rydym yn colli rhai ciwiau o gyfathrebu yr ydym i gyd yn dibynnu’n isymwybodol arnynt. Efallai y bydd angen ychydig o ymdrech ychwanegol. Dechreuwch y cyfweliad gyda chyfarchiad hyderus, eisteddwch yn gyfforddus a cheisiwch ymlacio, peidiwch ag eistedd yn rhy gaeth. Cofiwch wenu pan fo’n briodol gan y gall hyn i gyd gyfleu cyfweliad mwy cadarnhaol a hyderus.

Ymarfer. Mae’n syniad da ymarfer gyda rhywun ymlaen llaw a chael adborth ar yr amgylchedd, y golau, ystum y corff a’ch cywair.

■ Os ydych chi’n gwneud cais am rôl dechnegol, byddwch yn barod i rannu eich sgrin gan y bydd her dechnegol yn rhan o’r cyfweliad.