Pam y dylech ymuno â ni
Bydd gweithio yn y DTS yn brofiad gwerth chweil mewn cymaint o ffyrdd.
Mae’n gyfle i wneud yr hyn rydych chi’n ei wneud yn dda er budd pobl mewn gwir angen. Mae mynediad at gyfiawnder yn un o’r hawliau sylfaenol i fyw yn y wlad hon. Felly beth bynnag a wnewch yma, byddwch yn helpu i ddarparu rhywbeth gwerthfawr. Byddwch yn cael effaith ar sut y caiff cyfiawnder ei gyflawni. Ond ni fyddwch yn ein helpu i newid yn unig, byddwch chi yn newid hefyd. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd, yn cymryd rhan mewn gwaith ystyrlon. Wrth i ni dyfu, byddwch yn tyfu gyda ni – a byddwn yn sicrhau eich bod yn cael eich gwobrwyo’n dda hefyd.
Mae gwneud cyfiawnder yn addas ar gyfer y dyfodol yn golygu y byddwn yn buddsoddi ynoch fel y gallwch gyflawni. Yn ogystal â gofalu am eich datblygiad proffesiynol, ni fyddwn yn anghofio bod gennych fywyd y tu allan i’r gwaith. Lle bynnag y gallwn, byddwn yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion. Ein pobl ni yw pwy ydym ni. Dim ond os byddwch yn cyflawni eich potensial y byddwn yn cyrraedd ein potensial. Mae angen i weithio yma weithio i chi ym mhob ystyr. Byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn gwneud hynny. Bob cam o’r ffordd.