Y Gyfarwyddiaeth Gyllid, Llywodraethu a Pherfformiad
Mae’r Gyfarwyddiaeth Gyllid, Llywodraethu a Pherfformiad yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau sy’n cefnogi’r busnes yn uniongyrchol. Mae’r rhain yn cynnwys cynllunio a rheoli ariannol a chyllidebol; sicrwydd, rheoli twyll a rheoli risg, diogelwch eiddo a phobl, sicrwydd gwybodaeth a pharhad busnes.
Mae’r Gyfarwyddiaeth yn gofalu am y systemau llywodraethu ac adrodd hanfodol sy’n sicrhau bod yr Asiantaeth yn gallu rheoli ei hadnoddau ac adrodd yn ôl yn effeithiol i’r Bwrdd, i Weinidogion ac i Senedd y DU. Mae staff cyllid hefyd chwarae rhan yn yr holl raglenni newid a phenderfyniadau buddsoddi ledled Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, gan ddarparu gwybodaeth a chyngor arbenigol i sicrhau bod costau, buddion a risgiau yn cael eu deall a’u rheoli’n effeithiol. Rydym hefyd yn gweithio ar y cyd ar brosiectau strategol, yn cynnwys Gwasanaethau a Rennir a’r broses ddiwygio ffioedd ac rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr adrannau ystadau, caffael a swyddogaethau TGCh.