Y Gyfarwyddiaeth Strategaeth a Newid
Mewn cyfnod o ychydig o flynyddoedd, bydd GLlTEM yn trawsnewid y ffordd mae cyfiawnder yn cael ei weinyddu. Rydym eisiau i bob defnyddiwr teimlo eu bod wedi cael eu trin yn deg a gyda pharch a’u bod wedi cael gwasanaeth cyflym a phrydlon.
Mae hyn yn mynd ymhellach na symleiddio prosesau. Mae’n golygu newid y ffordd rydym yn meddwl ac yn teimlo am sut rydym yn gwasanaethu ein cwsmeriaid, sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd, a rolau ein hunain. Trwy ganolbwyntio ein hymdrechion ar ddarparu profiad gwell i gwsmeriaid a defnyddio technoleg i’n galluogi i weithio’n well ac yn glyfrach, rydym yn mynd i adeiladu system fodern ar gyfer gweinyddu cyfiawnder a fydd yn fuddiol i bawb sy’n ei defnyddio, ar gyfer sawl cenhedlaeth i ddod.