HMCTS Digital and Technology Services

Effaith ddigidol ar raddfa sy’n newid bywyd

 

Gwasanaethau Digidol a Thechnoleg GLlTEM ydym ni. Ein tasg ni yw creu gwasanaethau digidol heb ddiffygion ar gyfer system gyfiawnder y DU. Gwasanaethau hygyrch y gall pobl eu defnyddio ar rai o adegau anoddaf eu bywydau. Mae’n waith pwysig – ac yn her enfawr.

O ddydd i ddydd, mae hyn yn golygu ein bod yn cefnogi, rheoli a datblygu gwasanaethau digidol, gan sicrhau eu bod yn gweithio, yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac yn addas i’r diben. Rydym yn gweithio’n agos gyda thimau gweithredol GLlTEM, MoJ Digi/Tech a chyflenwyr allanol i gefnogi’r busnes – gan roi anghenion defnyddwyr a gofynion busnes wrth wraidd yr hyn a wnawn. Rydym hefyd yn rheoli’r gwasanaeth TG a ddarperir gan MoJ Digi/Tech (cyfrifiaduron, argraffwyr, mynediad i’r rhwydwaith) gan sicrhau bod GLlTEM yn cael y gwerth mwyaf posibl o’i fuddsoddiad mewn TG.

Ein gweledigaeth yw datblygu a chefnogi system gyfiawnder ddigidol, sy’n syml i’w defnyddio. System gyfiawnder o’r dechrau i’r diwedd a all addasu ac ymateb i anghenion sy’n newid a sicrhau canlyniadau gwell i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn chwilio am bobl talentog i’n helpu ni gyflawni hyn.

Y technolegau a ddefnyddiwn:

■  Java a Python i ysgrifennu ein ôl-wasanaethau
■  Node.js ac Angular i ysgrifennu ein gwasanaethau pen blaen
■  Jenkins ar gyfer adleoli
■  Dynatrace ar gyfer monitro ceisiadau
■ Kubernetes ac Docker i gynnal ein gwasanaethau
■ Azure ar gyfer y rhan fwyaf o’n seilwaith
■ Postgres a Redis ar gyfer ein cronfeydd data
■ System Ddylunio GOV.UK ar gyfer ein rhyngwynebau gwe
■ Macs i wneud pob un o’r uchod

A dim ond y dechrau yw hyn. Rydym hefyd yn defnyddio ystod o dechnolegau eraill ac yn parhau i esblygu, gan ddefnyddio technolegau newydd sy’n ein helpu i ddarparu gwasanaeth gwell bob dydd.


Enghreifftiau o gynnyrch:

 

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Gweld ar GitHub ▸

GLlTEM
Gweld ar GitHub ▸

Platfform Cyffredin y System Cyfiawnder Troseddol
Gweld ar GitHub ▸

 

Darganfyddwch fwy fyth ym mlog datblygwr Y Weinyddiaeth Gyfiawnder.


Buddion a gwobrau eithriadol

Mae ein rolau yn cynnig cyfle unigryw. Mae hon yn raglen uchelgeisiol, a bydd yn cymryd meddwl arloesol a hyblyg i’w chyflawni. Yn gyfnewid am hyn, byddwn yn darparu hyfforddiant gwych, cefnogaeth eithriadol gan gydweithwyr profiadol a digon o gyfleodd i weithio’n hyblyg, mewn amgylchedd hollgynhwysol sy’n gweld gwerth yn eich barn a’ch syniadau.

Opsiynau patrwm gweithio:

■  Llawn Amser
■  Rhan- Amser
■  Yn ystod Tymor Ysgol
■  Rhannu Swydd/i
■  Gweithio’n Hyblyg


 

Y Buddion

■  Cynllun pensiwn hael – hyd at 27% o gyfraniad gennym ni!
■  25 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc ac 1 diwrnod braint.
■  Gweithio hyblyg – p’un a yw’n gweithio o gartref neu o bell, yn rhannu swydd neu’n gweithio oriau cywasgedig, mae gennym bobl yn gwneud y cyfan.
■  Mynediad at hyfforddiant a datblygiad trwy ein Tîm Gallu pwrpasol gan gynnwys achrediad Microsoft.
■  Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a rhianta ar y cyd gwych – hyd at 26 wythnos o dâl llawn, 13 wythnos gyda chyflog rhannol, a 13 wythnos o wyliau pellach.
■  Benthyciadau beic a pharcio beic diogel (yn amodol ar argaeledd a lleoliad).
■  Benthyciadau tocynnau tymor a thalebau gofal llygaid.
■  Hyd at 5 diwrnod â thâl am waith gwirfoddol.
■  Rhwydweithiau a redir gan weithwyr o darddiad lleiafrifoedd ethnig, gweithwyr ag anableddau, y rheini â chyfrifoldebau gofalu, menywod, a gweithwyr lesbiaid, hoyw, deurywiol, a thrawsrywiol.

Rydym yn angerddol am ddatblygu gyrfa – gallwch ddewis o nifer o lwyfannau hyfforddi a datblygu sydd fwyaf addas ar eich cyfer chi. Gan weithio gyda’ch rheolwr, cewch yr amser a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i gwblhau’r cyrsiau.

Pluralsight
dros 7000 o gyrsiau hyfforddi drwy fideo wedi’u creu gan fwy na 1400 o arbenigwyr pwnc, sy’n ymdrin ag ystod eang o sgiliau cysylltiedig â datblygu meddalwedd.

Cynllun Sgiliau Menter Microsoft
ystod o gyrsiau â ffocws azure a all arwain at Ardystio Microsoft.

Civil Service Learning
amrywiaeth eang o hyfforddiant ar-lein i helpu i gefnogi eich rôl fel Gwas Sifil.

 


I ddarganfod mwy a chofrestru eich diddordeb e-bostiwch: chris.ward@justice.gov.uk / Mark.Ricketts1@justice.gov.uk