Canolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd (CTSC)

Canolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd (CTSC)

Rolau yng Nghanolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd – Stoke-on-Trent a Birmingham

Ymunwch â’n gwasanaeth pwrpasol sy’n darparu mynediad gwell at gyfiawnder.

Mae ein Canolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd  (CTSCs) yn cefnogi pobl gydag achosion sydd wrthi’n mynd drwy’r system gyfiawnder.

Mae’r canolfannau CTSC yn defnyddio ymchwil, ynghyd ag ymgynghori â barnwyr, ynadon a gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith i wella mynediad at wasanaethau cyfiawnder yn gyffredinol.

Trwy ein Rhaglen Ddiwygio gwerth £1 biliwn, rydym yn anelu at gyflwyno datrysiadau cyfiawnder digidol yn y canolfannau CTSC a fydd yn rhoi ein defnyddwyr gwasanaeth wrth wraidd pob trafodiad.

CTSC Wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth #1 lle gwych i weithio #1 gwasanaeth cwsmeriaid #1 ffyrdd modern o weithioMae dyletswyddau arferol yn y canolfannau CTSC yn cynnwys prosesu achosion, cyflwyno gorchmynion o lysoedd a thribiwnlysoedd, ateb ymholiadau gan y cyhoedd, ac yn fwy diweddar, darparu cefnogaeth ar gyfer gwrandawiadau rhithiol.

Mae Canolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd yn darparu cyfle unigryw ichi chwarae rhan yng nghanlyniad y rhaglen ddiwygio. Credwn mai cyfiawnder yw sylfaen cymdeithas ddiogel, deg a ffyniannus ac rydym yn creu system gyfiawnder sy’n gweithio i bawb. Byddwch yn gweithio ar y rheng flaen, yn helpu ein cwsmeriaid i symud ymlaen drwy’r gwasanaeth ar-lein newydd sy’n trawsnewid ein system gyfiawnder. Y canolfannau CTSC yw’r pwynt mynediad cyntaf ar gyfer llawer o ddefnyddwyr y llysoedd a’r tribiwnlysoedd. Maen nhw’n sicrhau yr ymdrinnir â’r holl achosion yn effeithlon ac yn effeithiol, gan ddarparu gwasanaeth o safon a phrofiad ardderchog i ddefnyddwyr. Zoe Blake, Cyfarwyddwr Cyflawni’r Canolfannau CTSC