Y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau

Y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau

Mae’r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau yn atebol am sicrhau bod y busnes yn cael ei ddarparu yn unol ag amcanion a nodau GLlTEM a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ). Yn ei gyfanrwydd, mae’r Gyfarwyddiaeth Cyfathrebiadau yn cynnwys tîm y Pencadlys canolog a’r rhanbarthau/meysydd busnes canlynol: Llundain, Canolbarth Lloegr, Gogledd Ddwyrain Lloegr, Gogledd Orllewin Lloegr, De Ddwyrain Lloegr, De Orllewin Lloegr, Cymru, y Canolfannau Busnes Cenedlaethol, y Gwasanaeth Cydymffurfiaeth a Gorfodi Cenedlaethol a’r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgorau.

Mae tîm y Pencadlys yn chwarae rôl allweddol ym mhob agwedd ar gyflawni gweithredol o fewn y llysoedd a’r tribiwnlysoedd ac mae’n gyfrifol am:-

  • Monitro a chefnogi’r busnes i wella perfformiad;
  • Sicrhau bod gwasanaethau dan gontract (yn cynnwys Monitro Electronig, PECS, Gwasanaethau Cyfieithu) yn bodloni anghenion busnes GLlTEM o ddydd i ddydd ac yn y tymor hir.
  • Arwain ar ein gweledigaeth ar gyfer arfer gorau gweithrediadau, gan fanteisio ar bob cyfle i herio’r status quo a defnyddio cyfleoedd i newid fel ffordd i gyflawni ein nod pennaf.

Mae’r rhanbarthau/meysydd busnes yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau o ddydd i ddydd GLlTEM a rheoli newid i’r dyfodol. Maen nhw’n gyfrifol am:-

  • Ddarparu Gwasanaeth Cyfreithiol y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd;
  • Darparu’r lefelau perfformiad y cytunwyd arnynt o fewn cyllidebau dirprwyedig a sicrhau bod targedau gweithredol yn cael eu cyflawni yn ein meysydd cyflawni (Llys Ynadon, Llys y Goron, y Llysoedd Barn Brenhinol, Llys Sifil, Llys Teulu, y Tribiwnlysoedd a chasgliadau cosbau ariannol);
  • Pennu’r dull cyflwyno cywir ar gyfer mentrau newid, gan sicrhau bod newid yn ‘gweithio’n dda’ ym mhob rhanbarth a bod staff yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth yn ystod newid;
  • Sicrhau bod gennym lefel uchel o ymgysylltiad ymysg ein staff, gan werthfawrogi ein pobl, eu harwain yn dda a thaclo perfformiad gwael ar yr un pryd;
  • Gweithio mewn partneriaeth â’r farnwriaeth i gyflawni nodau ac amcanion GLlTEM.

Y rolau sy’n destun ymgyrch recriwtio yn aml yn y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau yw Clercod Llys y Goron, Swyddogion Gweinyddol, Thywyswyr a cynghorwyr cyfreithiol dan hyoidean.