Effaith ddigidol ar raddfa sy’n newid bywyd
Gwasanaethau Digidol a Thechnoleg GLlTEM ydym ni. Ein tasg ni yw creu gwasanaethau digidol heb ddiffygion ar gyfer system gyfiawnder y DU. Gwasanaethau hygyrch y gall pobl eu defnyddio ar rai o adegau anoddaf eu bywydau. Mae’n waith pwysig – ac yn her enfawr.
O ddydd i ddydd, mae hyn yn golygu ein bod yn cefnogi, rheoli a datblygu gwasanaethau digidol, gan sicrhau eu bod yn gweithio, yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac yn addas i’r diben. Rydym yn gweithio’n agos gyda thimau gweithredol GLlTEM, MoJ Digi/Tech a chyflenwyr allanol i gefnogi’r busnes – gan roi anghenion defnyddwyr a gofynion busnes wrth wraidd yr hyn a wnawn. Rydym hefyd yn rheoli’r gwasanaeth TG a ddarperir gan MoJ Digi/Tech (cyfrifiaduron, argraffwyr, mynediad i’r rhwydwaith) gan sicrhau bod GLlTEM yn cael y gwerth mwyaf posibl o’i fuddsoddiad mewn TG.
Ein gweledigaeth yw datblygu a chefnogi system gyfiawnder ddigidol, sy’n syml i’w defnyddio. System gyfiawnder o’r dechrau i’r diwedd a all addasu ac ymateb i anghenion sy’n newid a sicrhau canlyniadau gwell i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn chwilio am bobl talentog i’n helpu ni gyflawni hyn.