Amdanom ni

Amdanom ni

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF) yn adran o’r Llywodraeth o fewn y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n rheoli’r holl Lysoedd a Thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr. Gyda dros 1000 o Gynghorwyr Cyfreithiol yn genedlaethol, rydym yn delio ag oddeutu 95% o’r holl achosion troseddol, 60% o achosion teulu a 70% o achosion sifil ar draws Cymru a Lloegr.

Mae ein cylch gwaith yn eang, a’n pwrpas yn hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bawb, ym mhobman, fynediad at gyfiawnder.

“Mae cyfiawnder a rheolaeth y gyfraith yn arwyddion o gymdeithas wâr. Mae gan Gymru a Lloegr system gyfiawnder sy’n enwog yn rhyngwladol ac mae ein gwaith ni wrth galon hynny.

Rydym yn chwilio am bobl ymroddedig, brwdfrydig a thalentog sydd eisiau gweithio o fewn ein system gyfiawnder, mewn rolau sy’n cynnig amrywiaeth, heriau a datblygiad proffesiynol.

– Tom Ring, Pennaeth y Proffesiwn Cyfreithiol

Gweithio yn GLlTEF

Rydym yn chwilio am bobl ymroddedig a thalentog i ymuno â GLlTEF. Rydym yn gyfrifol am:

  • Ddarparu cymorth gweinyddol i system llysoedd a thribiwnlysoedd deg, effeithlon a hygyrch.
  • Cefnogi barnwriaeth annibynnol wrth iddi weinyddu cyfiawnder.
  • Hybu gwelliannau ym mhob agwedd ar weinyddu’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd.
  • Cydweithio’n effeithiol â chyrff ac asiantaethau cyfiawnder eraill, gan gynnwys y proffesiynau cyfreithiol, i wella mynediad at gyfiawnder.
  • Cydweithio ag adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth i wella ansawdd ac amseroldeb eu penderfyniadau er mwyn lleihau nifer yr achosion sy’n dod gerbron y llysoedd a’r tribiwnlysoedd.

Dechreuwch eich taith gyda GLlTEF heddiw drwy edrych ar yr amrywiaeth o swyddi sydd gennym o fewn yr adran Gweithrediadau Cyfreithiol:

Cynghorydd Cyfreithiol dan Hyfforddiant HEO
Gweld ▸

Cydymaith Llys EO
Gweld ▸

Cynghorydd Cyfreithiol – Newydd-ddyfodiad Cymwys SEO
Gweld ▸

Swyddog Cyfreithiol HEO
Gweld ▸

Uwch Swyddog Cyfreithiol SEO
Gweld ▸

Chwiliwch yma am swyddi gwag

 

Dysgu a Datblygu

Datblygiad parhaus ein pobl yw’r hyn sy’n sicrhau ein bod yn dal i dyfu, datblygu a pharhau. Mae ein pobl i gyd yn cael mynediad at gefnogaeth dysgu a datblygu cynhwysfawr, ac rydym yn grymuso pob un ohonynt ym mha bynnag ffordd sydd orau iddyn nhw.

Fel Cynghorydd Cyfreithiol dan Hyfforddiant (TLA), byddwch yn elwa o dwy flynedd o hyfforddiant trylwyr. Rydym yn cydweithio â’r Coleg Barnwrol, ac mae pob un o’n Cynghorwyr Cyfreithiol dan Hyfforddiant yn cael mynediad i’w lyfrgell electronig enfawr a’i adnoddau dysgu. O wybodaeth gyfreithiol hanfodol i roi cyngor yn yr ystafell llys, a sgiliau drafftio, byddwch yn dysgu popeth fydd arnoch angen ei wybod i ddechrau gyrfa lwyddiannus fel cynghorydd cyfreithiol.

Ni fydd y datblygiad yn gorffen pan fydd yr hyfforddiant yn dod i ben. Byddwch yn elwa o hyfforddiant parhaus yn y gyfraith, arferion a phrosesau amrywiol, a chewch gyfle i ddatblygu sgiliau ehangach megis mentora, hyfforddi, cyflawni gweithredol neu arweinyddiaeth.

Rydym yn angerddol am ddatblygu gyrfa – gallwch ddewis o nifer o blatfformau hyfforddi a datblygu amrywiol i’ch siwtio chi. Gan weithio gyda’ch rheolwr, cewch y cymorth a’r amser fydd ei angen arnoch i gwblhau’r cyrsiau.

Cyngor ar wneud cais

Ydych chi’n meddwl am wneud cais i ymuno â ni yn GLlTEF? Dyma ychydig o gyngor i’ch helpu gyda’r broses.

Mae GLlTEF yn gwerthuso llwyddiannau yn erbyn y Fframwaith Proffiliau Llwyddiant sy’n asesu ymddygiadau, cryfderau a photensial ymgeiswyr. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Broffiliau Llwyddiant yn gov.uk/government/publications/success-profiles.cy.

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn weithle amrywiol a chynhwysol, ac rydym am eich helpu i ddangos eich potensial llawn drwy gydol y broses asesu. Dyma ychydig o gyngor i’ch helpu chi ddeall beth i’w ddisgwyl:

Bydd ymddygiadau’n cael eu hasesu ar y cam ymgeisio a chyfweld. Wrth edrych ar ymddygiadau, rydym am gael dealltwriaeth o’r gweithredoedd/gweithgareddau rydych chi wedi’u gwneud yn y gorffennol a allai fod wedi arwain at ganlyniad llwyddiannus.

Paratowch enghreifftiau ymlaen llaw o’ch bywyd adref ac yn y gwaith yn defnyddio dull STAR. Amlinellwch y Sefyllfa, y Dasg, y Camau Gweithredu a gymerwyd gennych a Chanlyniad eich gwaith.

Darllenwch yr hysbyseb swydd ar gyfer pob rôl. Bydd y meini prawf asesu ar gyfer pob rôl wedi’u nodi’n glir a bydd hyn yn eich helpu gyda’ch cais a’ch cyfweliad.

Adolygwch yn ofalus broffil rôl y swydd rydych yn gwneud cais amdani i ddeall yn llawn sut allwch chi gysylltu eich enghreifftiau â’ch cais a’r cyfweliad.

Efallai y bydd Senario Gyfreithiol yn rhan o asesiad rhai rolau, a bydd hyn wedi’i nodi’n glir ar yr hysbyseb swydd.

Pan fydd rôl yn cael ei asesu ar sail datganiad addasrwydd, bydd angen i chi ddangos eich bod wedi deall gofynion y swydd ddisgrifiad. Adnabyddwch sgiliau allweddol a chyfrifoldebau drwy ddefnyddio enghreifftiau o’ch bywyd gwaith ac adref.

Bydd ymgeiswyr rhai swyddi a hysbysebir yn cael asesiad cyfreithiol fel rhan o’r cam cyfweld. Fe gewch wybod ymlaen llawn pa ardal o’r gyfraith fydd angen i chi ei astudio cyn y cyfweliad.

Ansicr ynghylch a oes gennych chi’r cymwysterau cyfreithiol angenrheidiol?

Gallwch ddarllen mwy am p’un a oes gennych chi’r sgiliau neu’r cymwysterau angenrheidiol ar gyfer y rôl rydych yn gwneud cais amdani yma:

SRA | Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE): approach to qualified lawyers seeking admission as a solicitor of England and Wales | Solicitors Regulation Authority

Os ydych chi dal i fod yn ansicr, anfonwch neges e-bost i legalrecruitment@justice.gov.uk

Diddordeb mewn gwaith mentora a chysgodi?

Ydych chi’n astudio’r gyfraith yn y Brifysgol ac â diddordeb mewn gyrfa gyfreithiol? Treuliwch wythnos gyda ni yn cysgodi cynghorydd cyfreithiol a chael cipolwg ar sut beth yw gweithio yn y system llysoedd.

Fe gewch gyfle i ymweld â’ch llys ynadon lleol, a chael blas ar amrywiaeth o swyddi cyfreithiol, gan gynnwys bargyfreithwyr, cynghorwyr cyfreithiol a barnwyr. Ochr yn ochr â gweithio yng nghalon cyfiawnder lleol, fe gewch gyngor gwerthfawr a mewnwelediad gan y rhai hynny sy’n gwybod fwyaf am y swyddi.

Os oes gennych ddiddordeb neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i legalrecruitment@justice.gov.uk

“Yn Ysgol y Gyfraith, rydym wastad yn chwilio am ffyrdd o wella cyflwyniad ein myfyrwyr i arferion cyfreithiol, drwy waith pro-bono neu baragyfreithiol, i ddatblygu eu sgiliau ymarferol a’u hyder. Mae cynllun mentora GLlTEF wedi bod yn hynod o boblogaidd a dymunol i’n myfyrwyr.’’

– Phil Elis, Pennaeth Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Gorllewin Llundain