Y Gyfarwyddiaeth Eiddo

Y Gyfarwyddiaeth Eiddo

Mae’r Gyfarwyddiaeth Eiddo yn sicrhau bod yr holl wasanaethau eiddo yn cael eu darparu ar draws yr ystâd sy’n angenrheidiol er mwyn gallu cyflawni amcanion GLlTEM. Mae hyn yn cynnwys gallu mewn meysydd strategaeth, buddsoddi cyfalaf, rheoli asedau, rheoli cyfleusterau, cynaliadwyedd a sicrwydd technegol.

Drwy weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad, y farnwriaeth a’n cyflenwyr Rheoli Cyfleusterau a Diogelwch, gallwn wneud y mwyaf o gapasiti ein hystad tra’n creu amgylchedd diogel a chadarnhaol yr ydym i gyd eisiau gweithio ynddo.

Hysbysebir rolau Rheolwyr Cyfleusterau a Rheolwyr Prosiect yn aml yn y Gyfarwyddiaeth Eiddo.