Canolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd (CTSC)
Rolau yng Nghanolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd – Stoke-on-Trent a Birmingham
Ymunwch â’n gwasanaeth pwrpasol sy’n darparu mynediad gwell at gyfiawnder.
Mae ein Canolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd (CTSCs) yn cefnogi pobl gydag achosion sydd wrthi’n mynd drwy’r system gyfiawnder.
Mae’r canolfannau CTSC yn defnyddio ymchwil, ynghyd ag ymgynghori â barnwyr, ynadon a gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith i wella mynediad at wasanaethau cyfiawnder yn gyffredinol.
Trwy ein Rhaglen Ddiwygio gwerth £1 biliwn, rydym yn anelu at gyflwyno datrysiadau cyfiawnder digidol yn y canolfannau CTSC a fydd yn rhoi ein defnyddwyr gwasanaeth wrth wraidd pob trafodiad.
Mae dyletswyddau arferol yn y canolfannau CTSC yn cynnwys prosesu achosion, cyflwyno gorchmynion o lysoedd a thribiwnlysoedd, ateb ymholiadau gan y cyhoedd, ac yn fwy diweddar, darparu cefnogaeth ar gyfer gwrandawiadau rhithiol.