Fel rhan o’n Haddewid Pobl, byddwn yn darparu cyfleoedd dysgu a datblygu helaeth yn GLlTEM, gan gefnogi eich datblygiad o fewn GLlTEM, y Gwasanaeth Sifil ehangach a thu hwnt.
Rydym yn addo y cewch:
- Gyfleoedd i ddatblygu’ch sgiliau
- Cefnogaeth i wireddu eich potensial a chyflawni eich uchelgeisiau gyrfaol.
- Sgiliau technoleg newydd.
- Pum diwrnod y flwyddyn ar gyfer dysgu a datblygu.
Datblygiad wedi’i deilwra i’ch gyrfa chi
Rydym yn cynllunio eich dysgu o gwmpas eich rôl a’ch uchelgeisiau. P’un a yw’n datblygu eich sgiliau digidol, eich galluoedd arweinyddiaeth neu’ch sgiliau ar gyfer cefnogi’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, byddwn yn datblygu eich gyrfa gyda’n gilydd.
Bydd gennych fynediad hefyd at ein platfform dysgu GLlTEM pwrpasol, ynghyd â mynediad 24/7 at adnoddau a chyfleoedd dysgu’r Gwasanaeth Sifil.
Gwyliwch ein stori a chanfod mwy am ddysgu a datblygu yn GLlTEM.
Datblygu eich talentau i’r eithaf
Nid yw eich talentau yn cael eu hesgeuluso yn GLlTEM. Rydym yn gweithredu nifer o gynlluniau datblygu talent a all eich helpu i ddatblygu’ch gyrfa o fewn GLlTEM a’r Gwasanaeth Sifil yn ehangach.
Prentisiaethau
Mae ein prentisiaethau yn cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau, yn cynnwys meysydd digidol, cyfreithiol, arweinyddiaeth, rheoli prosiectau a mwy.