Y Gyfarwyddiaeth Adnoddau Dynol
Mae Cyfarwyddiaeth Adnoddau Dynol GLlTEM yn dod o hyd i ffyrdd i wella ein gwasanaethau ac yn darparu cyngor ac arweiniad i’n holl staff ar faterion sy’n ymwneud â phobl.
Rydym hefyd yn darparu cyfarwyddyd ar ailstrwythuro ac yn tywys GLlTEM trwy’r newidiadau pobl enfawr ar draws meysydd cyfathrebu, dysgu, recriwtio, fetio, dyrchafiadau, rheoli presenoldeb, aneffeithlonrwydd, materion perfformiad ac ymddygiad, lles, tâl a gwobrau.
Trwy gynnwys ein pobl mewn trafodaethau, darparu cyfleoedd dysgu a chynnal ein gwerthoedd, rydym yn helpu i siapio GLlTEM er gwell a chreu amgylchedd rydym oll eisiau gweithio ynddo.