HM Courts & Tribunals Service - Diversity inclusion Welsh

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym yn angerddol am ddarparu cyfiawnder gwell i bawb yn y DU. Mae hyn yn golygu cael gweithlu amrywiol sy’n cynrychioli’r bobl rydym yn eu gwasanaethu yn llawn.

Pam bod amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig

Mae amrywiaeth yn sicrhau ein bod yn gallu darparu gwasanaethau yn deg wrth ymateb i anghenion unigol. Mae’n hybu arloesi a syniadau newydd trwy roi amrywiaeth o safbwyntiau gwahanol y gallwn eu defnyddio. Mae’n gwella’r broses gwneud penderfyniadau trwy sicrhau ein bod yn ystyried materion o bob safbwynt. Mae’n cynyddu hyder yn y system hefyd, pan fydd defnyddwyr ein gwasanaethau yn gweld eu hunain wedi’u hadlewyrchu yn ein gweithlu.

Rydym nawr ar ganol cyfnod o newid cyffrous, yn gweithio gyda’n gilydd i greu system symlach a mwy cynorthwyol. Rydym am i amrywiaeth a chynhwysiant fod wrth wraidd y system ac rydym yn barod i feddwl mewn ffordd radicalaidd a chymryd camau cadarn i wneud gwahaniaeth go iawn.

Ein strategaeth

Pan fydd pobl yn dod i weithio i GLlTEM, rydym eisiau iddynt deimlo’n ddiogel a theimlo eu bod yn rhan o’r sefydliad. Dylai pawb gael cymorth ac undod eu cydweithwyr a’u rheolwyr a chael eu trin gydag empathi a pharch.

Mae ein strategaeth yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a lles. Mae’n sicrhau bod GLlTEM:

  • yn darparu gwasanaethau teg a hygyrch, gyda mynediad cyfartal ar gyfer yr holl ddefnyddwyr
  • yn sefydliad cynhwysol i weithwyr a defnyddwyr, lle bo pawb yn cael eu trin yn deg a gyda pharch
  • yn meddu ar weithlu amrywiol, sy’n adlewyrchu ein cymdeithas ar bob lefel
  • yn blaenoriaethu lles, gyda diwylliant sy’n blaenoriaethu iechyd meddwl, iechyd corfforol ac iechyd emosiynol da ar gyfer ein holl weithwyr

 
Beth mae hyn yn ei olygu i chi

Ymunwch â ni a byddwch yn gweithio mewn amgylchedd cynhwysol ac amrywiol, lle mae cyfleoedd i bawb ddatblygu. Mae gennym leoliadau ledled Cymru a Lloegr ac amrywiaeth o rolau, felly siŵr o fod gennym swydd sy’n addas i chi – ni waeth beth yw eich sgiliau a’ch cryfderau.

Rydym am i bawb deimlo’n rhan o gymuned o weithwyr proffesiynol a byddwn yn eich cefnogi ym mhob ffordd y gallwn. Mae nifer o rwydweithiau amrywiaeth ledled GLlTEM, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Gwasanaeth Sifil yn ehangach. Maen nhw’n cynnwys y rhwydwaith anabledd, y rhwydwaith Cynhwysiant o ran Hil ac Anelu am Gydraddoldeb (RISE), y fforwm cydraddoldeb o ran rhywedd, SPIRIT (LGBT+) a llawer mwy.

Gyda’n gilydd byddwn yn sicrhau cyfiawnder gwell i bawb.