Beth mae hynny’n ei olygu go iawn
Rydych chi’n cael y datblygiad cywir ar gyfer eich gyrfa: P’un a yw’n datblygu’ch sgiliau digidol, sgiliau arwain, neu’r sgiliau i gefnogi’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, mae eich dysgu wedi’i gynllunio o amgylch eich rôl a’ch gyrfa. Mae’r byd gwaith yn newid ac rydym wedi ymrwymo i newid gydag ef.
Rydych chi’n cael mynediad i adnoddau dysgu o bob rhan o’r Gwasanaeth Sifil: Yn ogystal â’ch datblygiad sy’n benodol i GLlTEM, mae dysgu drwy adnodd dysgu’r Gwasanaeth Sifil – Civil Service Learning – yn rhoi cyfle i chi ddatblygu’ch sgiliau gydag adnoddau dysgu a ddarperir ledled y llywodraeth.
Rydych chi’n rhoi ac yn derbyn hyfforddiant parhaus: Rydych chi’n cael cefnogaeth arbenigol barhaus gan eich cydweithwyr – drwy wneud hyn rydych chi hefyd yn datblygu a gwella’ch sgiliau.
Rydych yn mynd â’ch talent ymhellach: Nid yw eich talent yn cael ei hesgeuluso. Ac os yw’n briodol ar gyfer eich gyrfa, mae gennym nifer o gynlluniau i ddatblygu’ch talent a all eich helpu i symud ymlaen gyda’ch gyrfa.
Rydych chi’n mwynhau gyrfa unigryw – a sawl ffordd i ddatblygu: Mae ehangder ein gwaith yn golygu eich bod chi’n cael profiadau heriol, gwerth chweil ac unigryw yn eich gyrfa, gyda’r cyfle i symud ymlaen o fewn GLlTEM neu’r Gwasanaeth Sifil yn ehangach.