Rydym yn gyfrifol am weinyddu’r llysoedd troseddol, sifil a theulu a’r tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, ynghyd â’r tribiwnlysoedd nad ydynt wedi’u datganoli yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.Dyna pam rydym wedi ein lleoli mewn oddeutu 300 o adeiladau mewn tua 200 o drefi a dinasoedd ledled Cymru a Lloegr.
Mae ein hadeiladau yn cynnwys canolfannau llysoedd a thribiwnlysoedd traddodiadol, ynghyd â Chanolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd mwy a fydd yn agor yn fuan, gyda’r ddwy cyntaf wedi’u lleoli yn Birmingham a Stoke.
Ynghyd ag adeiladau mewn dinasoedd mawr, yn cynnwys Manceinion, Leeds, Caerdydd, Bryste a Llundain, mae gennym hefyd leoliadau amrywiol eraill, o Ynys Wyth yn Ne Lloegr i Newton Aycliffe yn y Gogledd.
Ewch i’n adnodd chwilio am lys neu dribiwnlys i weld ein holl leoliadau ar fap.
Ewch i wefan Civil Service Jobs i weld y rolau cyfredol sydd ar gael yng Nghymru a Lloegr. CS Jobs.