HM Courts & Tribunals Service - Benefits Welsh

Buddion

Rydym yn gweithio i wneud cyfiawnder yn well i bawb – nid yn unig i’r bobl sy’n defnyddio’r system llysoedd a thribiwnlysoedd bob dydd, ond hefyd i bawb sy’n gweithio gyda ni. Dyna pam ein bod yn cynnig ystod helaeth o wobrau, buddion a chyfleoedd i ddatblygu.

Tâl a buddion nad ydynt yn ymwneud â thâl

Ein nod yw cefnogi lles proffesiynol a phersonol pawb yn GLlTEM. Yn ogystal â chyflog cystadleuol, byddwch yn cael nifer o fuddion nad ydynt yn ymwneud â thâl fel rhan o’r Gwasanaeth Sifil, fel gwyliau blynyddol hael, pensiwn cyfrannol, a chynlluniau bonws a chydnabod i staff.

Pensiwn

Mae eich pensiwn yn rhan werthfawr o’ch pecyn gwobrwyo cyfan, a byddwch yn cael cyfle i ymuno ag un o’r canlynol pan fyddwch yn ymuno:

Alpha
Mae hwn yn gynllun pensiwn cyfartalog ar hyd eich gyrfa (budd diffiniedig), gyda chyfradd gronni flynyddol o 2.32% a chyfradd cyfraniad y cyflogwr o hyd at 24.5% yn dibynnu ar eich cyflog pensiynadwy. Mae cyfraniadau cyflogeion hefyd yn seiliedig ar eich cyflog. Mae cyfraddau cyfraniadau i’w gweld yma.

Partnership
Cynllun pensiwn personol yw hwn. Nid oes rhaid i chi wneud unrhyw daliadau i gael cyfrif pensiwn partneriaeth oherwydd byddwn yn gwneud cyfraniadau beth bynnag. Os byddwch yn dewis cyfrannu, byddwn ninnau yn gwneud yr un peth hyd at 3% pellach at eich cyflog pensiynadwy. Mae’r buddion gyda’r math hwn o bensiwn yn dibynnu ar gyfraniadau a thwf y gronfa bensiwn.

Yswiriant bywyd

Bydd eich pensiwn yn parhau i ddarparu buddion gwerthfawr i chi a’ch teulu os ydych yn rhy wael i barhau i weithio, neu’n marw cyn i chi ymddeol.

Dysgu a datblygu

O’r cyfnod cynefino i ddysgu a datblygu parhaus, anogir pawb yn GLlTEM i ddatblygu eu sgiliau a’u galluoedd.

Cynllun Effaith a Datblygiad Personol (PID)

Mae ein cynllun PID yn mabwysiadu ymagwedd integredig tuag at dalent a pherfformiad ein staff mewn rolau ym mandiau A i F. Fel rhan o’r cynllun hwn, byddwch chi a’ch arweinydd tîm yn gweithio gyda’ch gilydd i’ch datblygu er mwyn eich  helpu i gyflawni eich dyheadau gyrfaol.

Gwobrwyo a chydnabod

Mae gennym gynllun gwobrwyo a chydnabod sy’n rhoi talebau gwerth hyd at £100 neu fonws arian parod o hyd at £2500 fesul blwyddyn am berfformiad uchel gan unigolyn neu dîm.