Rydym yn sefydliad amrywiol gydag amrywiaeth enfawr o rolau ledled Cymru a Lloegr. Mae’n gyfnod hynod gyffrous i ymuno â ni, oherwydd yn ogystal â pharhau i sicrhau cyfiawnder yn ddyddiol, rydym hefyd yn ymgymryd â rhaglen Ddiwygio o’r math cyntaf.
Rydym yn angerddol am greu gwell cyfiawnder i bawb yn y DU. Ymunwch â ni a byddwch yn gweithio mewn amgylchedd cynhwysol ac amrywiol lle mae cyfleoedd i bawb ddatblygu. Mae gennym leoliadau ledled Cymru a Lloegr, ac amrywiaeth o rolau, felly mae’n debygol iawn y bydd gennym swydd sy’n addas i chi – beth bynnag yw eich sgiliau a’ch cryfderau.