Ein proses gyfweld
Oherwydd pandemig Covid-19, mae’r rhan fwyaf o’n cyfweliadau yn cael eu cynnal o bell ar hyn o bryd gan ddefnyddio MS Teams.
Mae’r cyfweliad yn gyfle i chi ddangos i ni pam eich bod yn addas ar gyfer y rôl. Bydd yn cael ei gynnal gan banel amrywiol gan gynnwys aelodau o’ch proffesiwn yn y dyfodol i roi syniad i chi o sut beth yw gweithio yma.
Byddwch yn barod i ateb cwestiynau ar yr ystod o bynciau a drafodir yn y hysbyseb swydd. Byddwn yn gofyn cwestiynau penagored, gan roi cyfle i chi gynnwys tystiolaeth o sgiliau hanfodol, profiad ac ymddygiad proffiliau llwyddiant.
Os ydych yn gwneud cais am un o’n rolau technegol (Datblygwr/QA), gofynnir i chi hefyd ymgymryd â her/asesiad technegol byr, naill ai drwy raglennu pâr neu asesiad ar-lein.
Cyfweliadau fideo
Byddwch yn cael mynediad i’ch dolen gyfweliad drwy’r ganolfan gais (dyma’r system a ddefnyddiwyd gennych i drefnu’r slot). Dylai fod ar gael ychydig ddyddiau cyn y cyfweliad, ac rydym yn argymell ei brofi fel eich bod yn teimlo’n hyderus o’r broses ar y diwrnod. Pan fyddwch yn ei brofi ymlaen llaw, byddwch yn gweld neges yn dweud wrthych am ddod yn ôl ar yr amser a’r dyddiad a drefnwyd yn eich cyfweliad.
Ar y diwrnod:
■ Mewngofnodwch i’r alwad ychydig funudau cyn y disgwylir iddo ddechrau.
■ Gwrando a chael eich clywed – gwnewch yn siŵr bod y sain a’r meicroffon wedi’u gosod yn iawn fel y gall y cyfwelwyr eich clywed a gallwch chi eu clywed nhw.
■ Gwisgwch yn briodol – gwisgwch fel y byddech yn gwisgo ar gyfer cyfweliad wyneb yn wyneb.
■ Ystyriwch eich amgylchedd. A yw’n dawel? A oes rywbeth y gall dynnu eich sylw? A yw’r goleuadau’n dda ac a yw’r gwelededd yn glir? Beth fydd y cyfwelwyr yn ei weld y tu ôl i chi? Gwnewch yn siŵr mai chi yw’r prif ffocws heb i ddim dynnu eich sylw y tu ôl i chi.
■ Gwnewch yn siŵr na fydd unrhyw beth yn tynnu eich sylw. Caewch raglenni eraill ar eich dyfais. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw hysbysiadau a fydd yn gwneud sŵn. Diffoddwch eich ffôn.
■ Gwnewch yn siŵr na all unrhyw beth darfu arnoch. Os oes pobl eraill o gwmpas, rhowch wybod iddynt eich bod yn cael eich cyfweld ac nad ydych ar gael. Sicrhewch na fydd anifeiliaid anwes yn tarfu arnoch.
■ Defnyddio nodiadau. Gallwch ddefnyddio nodiadau ond gwnewch yn siŵr eu bod yn nodiadau atgoffa byr fel y gallwch gadw eich ffocws ar eich cyfwelwyr, mae hyn yn osgoi rhag iddynt edrych ar dop eich pen wrth i chi ddarllen.
■ Pan fydd y cyfwelwyr yn siarad, gwnewch yn siŵr eich bod yn canolbwyntio ar y camera ac yn dangos eich bod yn gwrando ar y cwestiynau. Ceisiwch osgoi edrych ar eich hun ar y sgrin gan fod hyn yn golygu nad ydych yn gwneud cyswllt llygaid da â’ch cyfwelwyr. Oedwch a gwiriwch yn ystod eich atebion bod y panel yn dal i gymryd rhan ac yn gwrando.
■ Meddyliwch am iaith eich corff. Mewn cyfweliad rhithiol, rydym yn colli rhai ciwiau o gyfathrebu yr ydym i gyd yn dibynnu’n isymwybodol arnynt. Efallai y bydd angen ychydig o ymdrech ychwanegol. Dechreuwch y cyfweliad gyda chyfarchiad hyderus, eisteddwch yn gyfforddus a cheisiwch ymlacio, peidiwch ag eistedd yn rhy gaeth. Cofiwch wenu pan fo’n briodol gan y gall hyn i gyd gyfleu cyfweliad mwy cadarnhaol a hyderus.
■ Ymarfer. Mae’n syniad da ymarfer gyda rhywun ymlaen llaw a chael adborth ar yr amgylchedd, y golau, ystum y corff a’ch cywair.
■ Os ydych chi’n gwneud cais am rôl dechnegol, byddwch yn barod i rannu eich sgrin gan y bydd her dechnegol yn rhan o’r cyfweliad.