Ein Timau

Ein Timau

 

Mae pob un o’n timau yn ymfalchïo mewn dull sy’n canolbwyntio ar ansawdd ac sy’n seiliedig ar ganlyniadau a’r berchnogaeth y maent yn ei chymryd wrth gyflawni arferion gorau. Maent wedi ymrwymo’n llwyr i wneud yr hyn sy’n iawn i ni fel sefydliad – ac mae hynny’n golygu helpu eraill i gyflawni eu nodau.

 

Mae ein tîm yn  cwmpasu’r chwe maes canlynol:


Cyflenwi Digidol


Gweithrediadau Digidol


Saernïaeth Ddigidol


Seiberddiogelwch


Cyflenwi Newid


Gweithrediadau Busnes


Dysgwch fwy am bob un o’r meysydd hyn isod.

Cyflenwi Digidol

Mae’r tîm hwn yn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a gwella ein rhaglenni’n barhaus. Ar gyfer unrhyw raglen newid fawr yn y dyfodol, byddant yn darparu’r adnoddau peirianneg meddalwedd arbenigol. Mae wedi’i rannu’n dair adran:

1  ■ Troseddol

Sy’n delio â’r holl raglenni a ddefnyddir yn Llysoedd y Goron a’r Llysoedd Ynadon, yn ogystal â gwasanaethau allanol fel y Rota’r Ynadon a’r System Rheoli Achosion yn Ddigidol (a ddefnyddir gan Wasanaeth Erlyn y Goron a thimau’r Amddiffyniad);

2  ■ Llysoedd Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd (CFT)

Sy’n delio â thros 20 o systemau rheoli achosion ar wahân sy’n cefnogi’r gwahanol wasanaethau CFT;

3  ■ Trawsbynciol

Mae’r maes hwn yn cael ei chreu a bydd yn cwmpasu’r holl systemau sy’n gweithredu ar draws awdurdodaethau.

Mae Cyflenwi Digidol yn creu datrysiadau pwrpasol i  feddalwedd fel y gall pobl gael mynediad at wasanaethau cyfiawnder – heb unrhyw ffwdan. Maent yn cefnogi ein cydweithwyr i’w helpu hefyd. Mae’n ymwneud â rhoi ein defnyddwyr yn gyntaf a chreu gwasanaeth di-straen, hawdd ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu ystyried adborth cwsmeriaid fel y gallwn barhau i wneud gwelliannau.


 

Gweithrediadau Digidol

Mae gweithrediadau GLlTEM yn ddigidol. Mae’r tîm hwn yn cynnal gweithrediad byw o’n cynnyrch a’n technoleg ddigidol. Maent yn gweithio gydag amrywiaeth o dimau cynnyrch i sicrhau dull cyson o gefnogi a bod gwasanaethau ar gael, yn perfformio’n dda i ddefnyddwyr ac yn cael eu gwella lle bynnag y bo modd.

Mae Gweithrediadau Digidol hefyd yn gweithredu’r swyddogaethau platfform sy’n sail i wasanaethau digidol newydd, seilwaith a’r gwasanaethau cysylltedd fideo a Wi-Fi sy’n galluogi digideiddio gwaith mewn ystafelloedd llys. ​


 

Saernïaeth Ddigidol

Mae ein Swyddogion Digidol yn gweithio mewn neu ar draws rolau sy’n cyd-fynd ag awdurdodaeth.  Er bod ein tîm Sicrwydd Technegol yn rhoi sicrwydd pellach ein bod yn cael popeth o fewn ein gallu o’n hatebion.

Gyda’i gilydd, eu gwaith hwy yw cyfleu’r weledigaeth a’r strategaeth ar gyfer technoleg i ni a’n partneriaid, a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’n hamcanion. O wella ailddefnyddio gwasanaethau digidol a’n gorwelion ar gyfer technolegau arloesol i ddatrys problemau ac arbenigedd sy’n benodol i barth mewn Data a’r Cloud, mae eu gwybodaeth a’u sgiliau llywodraethu technoleg bragmatig yn amhrisiadwy. Maent hefyd yn warcheidwaid ein safonau technegol ac yn gweithio gyda chydweithwyr i alluogi cynaliadwyedd a gwella ein technoleg.


Seiberddiogelwch

Y weledigaeth yw bod yn Ddiogel drwy reoli risg yn well, bod yn Wyliadwrus wrth ganfod bygythiadau, ymyriadau ac anghysondebau sy’n dod i’r amlwg. Ymateb ac adfer drwy fod yn ddiogel o ran problemau Seiber.

Mae’r tîm yn gyfrifol am ddiogelu seilwaith, dyfeisiau, rhwydwaith a data TG ar gyfer GLlTEM ac adrannau cysylltiedig eraill y Llywodraeth a defnyddwyr mewnol ac allanol. Yn ogystal â sicrhau cydymffurfiaeth â’n rhwymedigaethau statudol, maent hefyd yn gofalu am ddylunio cydrannau, ardystio mecanweithiau, torri amodau data a phrofion diogelwch.


 

Cyflenwi Newid

Mae’r tîm yn darparu prosiectau arbenigol a rheoli rhaglenni, er mwyn sicrhau newid mawr o’r cyfnod achos busnes i’r terfyn.

Mae perthnasoedd gwaith agos yn allweddol, gan fod y tîm yn gweithio gyda’r tîm Portffolio Strategol Gweithrediadau Busnes i ddeall ac ymateb i fentrau newid mawr ar y cynllun strategol, yn ogystal â chyflenwyr mewnol ar gyfer cyflenwi technegol (Cyflawni Digidol a Gweithrediadau Digidol yn bennaf) i ddarparu newid technegol.


 

Gweithrediadau Busnes

Mae rhediad llyfn ein Gwasanaethau Digidol a Thechnoleg (DTS) yn ddiolch i’r tîm hwn. Maent yn llywodraethu ac yn darparu sicrwydd ar faterion a rheolaethau corfforaethol (AD, Cyllid, Masnachol a Strategol), yn ogystal â goruchwylio prosiectau a rhaglenni. O recriwtio ac adnoddau i hyfforddiant a lles, mae gwasanaethau a chyngor arbenigol y tîm hwn i bob swyddogaeth yn hanfodol i’n sefydliad.

Maent yn gweithredu fel cynghorydd strategol a brocer allweddol rhwng DTS a’n swyddogaethau corfforaethol, rhaglenni a chyflenwyr, gan olrhain perfformiad yn erbyn cynlluniau a blaenoriaethau y cytunwyd arnynt. Mae llywodraethu corfforaethol a sicrwydd hefyd yn dod o fewn eu cylch gwaith.