Sut i wneud cais
Os oes gennych y sgiliau perthnasol ac rydych eisiau helpu i sicrhau cyfiawnder gwell i bawb, fe’ch anogwn i wneud cais.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, ac mae eich nodweddion personol yr un mor bwysig â’ch profiad proffesiynol.
Y broses ymgeisio
Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i rôl sy’n addas ichi, gofynnir ichi lenwi ffurflen gais ar-lein. Efallai gofynnir ichi gyflwyno CV hefyd.
Yn ystod y broses, bydd ein holl gyfathrebu yn digwydd drwy e-bost, felly bydd arnoch angen cyfeiriad e-bost dilys i wneud cais.
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, byddwch yn gallu archebu dyddiad a slot amser trwy fewngofnodi i’r porth ymgeisio. Cyn y cyfweliad, byddwn yn anfon neges e-bost atoch i roi gwybod ichi sut y dylech baratoi. Bydd manylion y cyfweliad hefyd yn cael eu trafod yn yr hysbyseb swydd ar gyfer y rôl.
Cliciwch yma i gael canllawiau ar sut i lenwi eich ffurflen gais.
Proffiliau Llwyddiant ac Ymddygiadau
Mae’r Gwasanaeth Sifil nawr yn defnyddio fframwaith hyblyg i asesu ymgeiswyr trwy ddefnyddio amrywiaeth o elfennau, yn cynnwys set o ymddygiadau.
Bydd yr ymddygiadau y cewch eich asesu yn eu herbyn wedi’u rhestru yn yr hysbyseb swydd ar gyfer y rôl. Rhowch amser i adolygu’r rhain cyn ichi ymgeisio.
Cliciwch yma i ganfod mwy am broffiliau llwyddiant ac ymddygiadau.
Gwiriadau cyn cyflogaeth
Cyn y gallwn gynnig rôl ichi, mae arnom angen cwblhau gwiriadau cefndirol cyn cyflogaeth i fodloni gofynion diogelwch a gofynion personél.
Mae’n bwysig eich bod yn llenwi’r ffurflen gais yn llawn ac yn gywir fel y gellir cynnal y gwiriadau hyn yn rhwyddach os byddwch yn cael cynnig o swydd gyda ni.
Cliciwch yma i ganfod mwy am ein gwiriadau cefndirol.
Ceisiadau presennol
Os ydych eisoes wedi dechrau gwneud cais neu wedi cyflwyno cais, gallwch glicio ar ‘Your Applications’ yn y gwymplen yn y porth ceisiadau i olrhain y cynnydd gyda’ch cais.
Yn y gwymplen, gallwch weld yr holl swyddi rydych wedi ymgeisio amdanynt. Dan bob teitl swydd, gallwch olrhain statws eich cais, adolygu manylion y rôl neu edrych ar negeseuon e-bost rydych wedi’u cael ynghylch y rôl.
Addasiadau rhesymol
Os oes gennych anabledd, anhawster dysgu neu gyflwr iechyd ac mae arnoch angen cymorth gyda’ch cais, rhowch wybod inni.
Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â’r pwynt cyswllt a nodir yn yr hysbyseb swydd, yn ddelfrydol, cyn gynted ag sy’n bosib cyn y dyddiad cau.
Dylech hefyd lenwi’r adran ‘assistance required’ ar y dudalen ‘additional requirements’ ar eich ffurflen gais. Dyma lle gallwch roi gwybod i ni am unrhyw gymorth y byddwch ei angen yn ystod y broses recriwtio, er enghraifft, gwasanaethau iaith neu fynediad i gadair olwyn yn eich cyfweliad.
Cynllun Cyflogwyr sy’n Hyderus o ran Anabledd
Fel rhan o’r Gwasanaeth Sifil, rydym yn addo cyfweld unrhyw unigolyn sydd ag anabledd fel y diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Os oes gennych anabledd, rhowch wybod inni drwy lenwi’r adran gofynion ychwanegol ar eich ffurflen gais. Trwy hyn, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y cymorth mae gennych hawl i’w gael o ddechrau’r broses ymgeisio.
Mae’r Cynllun Cyflogwyr sy’n Hyderus o ran Anabledd yn gwarantu y byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad, ond nid yw’n gwarantu y cewch swydd. Yn y cyfweliad, byddwch yn cael eich asesu ar sail teilyngdod yn unig, yn unol ag Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.
Ymwrthodiad
Dylai’r holl geisiadau gael ei wneud gennych chi a chael eu hanfon yn uniongyrchol i GLlTEM.