Canolfannau Busnes Cenedlaethol (NBC)
Canolfannau Busnes Cenedlaethol
Pwy yw’r Canolfannau Busnes Cenedlaethol?
Crëwyd y Canolfannau Busnes Cenedlaethol (NBC) yn 2013, gan ganoli swyddogaethau gweinyddol a chyswllt yn GLlTEM. Rydym yn gweithio i sicrhau bod gwaith gweinyddol a chyswllt cwsmeriaid yn cael eu darparu i safon uchel, gan ganiatáu i’n cwsmeriaid gael mynediad at y gwasanaethau mae arnynt eu hangen gan GLlTEM.
Mae’r NBCs wedi’u lleoli o amgylch y wlad, gydag amrywiaeth o wahanol feysydd gwaith yn dod o dan GLlTEM, o Hawlio Arian yn y Llys Sifil, Ysgariad a Thribiwnlysoedd. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn amrywiol ac yn gynhwysol. Mae ein rolau’n hollbwysig – ac wrth i raglen ddiwygio GLlTEM barhau, byddwn yn parhau i gefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth a’n cydweithwyr yn GLlTEM gyda pherfformiad gwych a diwylliant cryf.
Rydym yn cefnogi ffyrdd newydd ac arloesol o weithio, gan ymdrechu bob amser i gyflawni’r canlyniadau gorau. Rydym yn delio â nifer o weithrediadau yn GLlTEM, ac felly mae gennym gyfle unigryw i gyffwrdd â bywydau ein holl gwsmeriaid.
Neges gan ein Cyfarwyddwr Cyflawni
Mae’r NBC yn rhan sefydledig sy’n perfformio’n dda o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM. Rwyf wrth fy modd yn arwain grŵp mor frwdfrydig o staff – sydd â’r fath ymroddiad i’n cwsmeriaid a’n defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r gwasanaeth a ddarparwn mor bwysig, a chredaf fod ein timau’n deall hyn ac yn wirioneddol yn gwthio eu hunain i ddarparu’r gwasanaeth hwn.
Pa rolau sydd gennym yn ein rhanbarth?
Mae’r mathau o waith a wnawn yn amrywio o swyddfa i swyddfa, ond yn ein hanfod, mae gennym nifer o rolau allweddol sydd i’w gweld yn gyson ar draws yr NBC. Rydym yn hysbysebu ym mhob safle pan fydd swyddi gwag ar gael ond ble bynnag y byddwch wedi eich lleoli – mae ein safonau a’n disgwyliadau yr un fath:
- Rolau Gweinyddol
Ein timau gweinyddol yw craidd yr NBC, gan ddarparu gwasanaeth cwsmer gwych a gwaith prosesu gweithredol i alluogi Cyfiawnder. Mae’r timau’n gweithio ar draws amrywiaeth o feysydd ac awdurdodaethau ac yn cael cyfle nid yn unig i ddarparu’r prosesau a’r gwasanaeth i gwsmeriaid, ond i lunio a gwella’r ffordd rydym yn gweithredu’n barhaus. Mae rolau nodweddiadol yn cynnwys prosesu gwaith papur a gwaith digidol gan gwsmeriaid, rolau mewn canolfannau cyswllt, cwynion cwsmeriaid a gohebiaeth, a gwaith gweinyddol arall. Rydym yn grymuso ein staff gweinyddol i fod yn llais i’n cwsmeriaid, gan roi cyfle iddynt wneud newidiadau sy’n bwysig i’n - Rolau arwain
Arweinwyr NBC yw ein timau rheng flaen a’n timau rheoli yn y swyddfa. Mae ein harweinwyr yn ysbrydoledig, ymroddedig a chefnogol i’n gwasanaethau a’n staff. Gall arweinwyr yn yr NBC ddisgwyl cael cyrsiau cymorth a datblygu i dyfu fel arweinwyr, gan roi pŵer iddynt fodelu gwerth GLlTEM i’n staff. Mae rolau arwain nodweddiadol yn cynnwys arweinwyr tîm, rheolwyr swyddfa; bydd y ddau ohonynt yn sicrhau bod ein prosesau busnes yn cael eu dilyn, bod pobl yn cael eu cynnwys a’u datblygu, a bod newid yn digwydd yn gyson ac yn barhaus. - Rolau Uwch Arweinwyr
Mae uwch arweinwyr yn yr NBC yn rheoli ein swyddfeydd, clystyrau a gweithrediadau rhanbarthol. Maent yn darparu strategaeth, cymorth a chyfeiriad cyson i’n pobl. Rydym yn disgwyl i arweinwyr fod yn fodelau rôl a meddylwyr y tu allan i’r bocs, gan roi cymhelliant a brwdfrydedd i’n staff. Mae uwch arweinwyr yn cydbwyso blaenoriaethau, gan gysylltu’r NBC â GLlTEM ehangach, a sicrhau bod ein rhanddeiliaid yn cael eu rheoli’n dda. Mae’r rolau hyn yn cynnwys Rheolwyr Cyffredinol, Arwain y tîm Newid a Chymorth a chefnogi ac arwain cydweithwyr diwygio ar ddyfodol gwasanaethau NBC. - Uned Cymorth Ranbarthol
Mae ein tîm yn cynnwys swyddogion cymorth Band E i B, sy’n gweithio ar draws ystod o feysydd arbenigol a meysydd nad ydynt yn arbenigol, gan roi cymorth hanfodol i’r rhanbarth ar bethau fel Cyllid, Llywodraethu, Recriwtio, Perfformiad a Gwasanaeth Cwsmer. Mae eu gwaith yn cynnwys rheoli data, cynllunio, adrodd a chymorth corfforaethol. - Tîm Newid
Mae ein tîm yn cynnwys nifer o Reolwyr Newid Band B ac C, sy’n ein helpu i gyflawni a gweithredu newid ar draws yr NBC, gan gefnogi ein staff drwy newid a phontio. Mae rolau’r tîm yn cynnwys prosiectau, newid, gwelliant parhaus a rheoli rhanddeiliaid.
Ein ffyrdd o weithio a diwylliant
Yn ogystal â manteision gweithio i GLlTEM a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, nod yr NBC yw darparu fframweithiau a ffyrdd o weithio sy’n ei gwneud yn bleserus ac yn heriol i weithio i ni. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys:
- Gweithio hybrid – mae ein timau ar hyn o bryd yn gweithio o adref canran o’u hamser, ac yn y swyddfa weddill o’r amser. Rydym yn dal i weithio’r un ffordd yn sgil y pandemig, ond wrth i ni ddychwelyd i’r arfer, byddwn yn trafod gyda’n timau sut yr ydym i gyd yn gweithio gyda’n gilydd
- Addewid Pobl – rydym wedi ymrwymo i Werthoedd GLlTEM, ac mae ein haddewid yn gontract rhwng staff, rheolwyr ac arweinwyr i gyd chwarae eu rhan wrth weithredu’r gwerthoedd. Rydym yn defnyddio ein haddewid i greu gweithgarwch gwella, gweithredu polisïau sy’n adlewyrchu’r hyn sydd ei angen ar ein staff, ac i wneud yr NBC yn lle gwych i weithio
- Dysgu a Datblygu – mae’r NBC wedi’i neilltuo ar gyfer meithrin capasiti. Byddwn yn siarad mwy am ddysgu a datblygu yn nes ymlaen yn y dudalen hon, ond fel rhan greiddiol o’n busnes mae gennym 5 diwrnod o ddysgu i’r holl staff, yn ogystal ag amser ychwanegol i ffwrdd o’ch rôl i ddatblygu wrth ymgymryd â nifer o’n rhaglenni.
- Perchnogaeth – mae’r NBC yn rhoi gwelliant parhaus wrth wraidd ein prosesau, ac felly rydym yn annog ein holl staff i gyfrannu. Rydym yn rhoi cyfle i’n timau i wneud newidiadau a fydd yn gwella ein gwasanaethau.
Mae’r NBC yn gweithio o fewn Gwerthoedd GLlTEM, gan greu amgylchedd gwych i bawb weithio. Rydym yn awyddus ein bod yn gynhwysol, yn amrywiol ac yn gefnogol. Fel rhan o Werthoedd GLlTEM, rydym yn annog cydweithio agored a chydweithredol.
Datblygu ein Pobl
Mae ein holl staff yn derbyn hyfforddiant a chymorth yn y swydd, gan eich helpu i ymgartrefu yn yr NBC. Yn ogystal â chefnogi eich rôl yn y busnes, rydym yn awyddus i’ch cefnogi a’ch datblygu fel unigolyn. Rydym yn gwbl gefnogol i lwybrau gyrfa a theuluoedd swyddi, ac ni waeth pa deulu rydych chi’n perthyn iddo, mae gennym gyfleoedd i symud a datblygu i gyd-fynd.
- Cynnig Gallu Craidd – mae’r holl staff yn elwa o fynediad at ddysgu safonol y Gwasanaeth Sifil, cynhyrchion dysgu GLlTEM a’r MoJ, a deunyddiau datblygu allweddol a fydd yn eich helpu gyda’ch rôl a’ch gyrfa
- Teuluoedd swyddi – yn yr NBC, rydym yn rhan o’r proffesiynau Cyflawni ac Arwain Gweithredol, ac felly rydym wedi gwneud cysylltiadau clir rhwng rolau a datblygiadau. Byddwch yn elwa o gymorth i nodi a datblygu’r camau a’r camau nesaf y gallwch eu cymryd i ddatblygu o fewn eich swydd ddewisol.
- Rhaglenni datblygu – rydym yn gweithredu rhaglenni datblygu bob blwyddyn ar gyfer staff, rheolwyr, Interniaethau’r Haf, a gallu Gwelliant Parhaus – gan sicrhau bod llwybr dysgu bob amser ar gyfer datblygiad hygyrch, yn y gwaith
- “Step up to Leadership” – ar gyfer darpar arweinwyr, rydym yn cynnal cynllun datblygu mewnol i adeiladu ymddygiadau arwain, gwybodaeth a sgiliau – gan ganiatáu i’n staff feithrin y sgiliau angenrheidiol i chwilio am rolau arwain pan fyddant ar gael
- Cynllun i Reolwyr Prentis – i gefnogi twf yn y swydd, mae’r NBC yn cynnal cynllun prentisiaeth flynyddol i reolwyr newydd a fydd yn elwa o gwblhau prentisiaeth Arweinyddiaeth Cyflawni Weithredol i gael mynediad at sgiliau allweddol i gwblhau eu gwaith yn well. Byddant yn cael 20% ar yr amser gwaith i gwblhau hyn, yn ogystal â chefnogaeth gan y sefydliad.
Ble rydym wedi ein lleoli?
Mae’r NBC yn rhanbarth cenedlaethol, felly mae gennym safleoedd ledled Lloegr. Mae ein swyddfeydd wedi’u lleoli yn y dinasoedd canlynol:
- Bradford
- Bury St. Edmunds
- Darlington
- Caerlŷr
- Northampton
- Salford
- Southampton
Gellir gwneud rhai o’n swyddi o bell, gyda’n holl staff o fewn cyrraedd eu safle NBC agosaf ar gyfer pwyntiau cyffwrdd rheolaidd ac i dreulio amser gyda’u timau.
Eisiau gwybod mwy?
Diolch am ddarllen am y Canolfannau Busnes Cenedlaethol! Gobeithiwn y bydd y dudalen hon yn ddefnyddiol i chi fel crynodeb o’n rhanbarth a’r gwaith a wnawn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ranbarth yr NBC, byddai ein Huned Cymorth Rhanbarthol yn hapus i roi mwy o wybodaeth i chi amdanom. Gallwch anfon e-bost atom yn NBC.RSU@Justice.gov.uk a byddwn yn cysylltu â chi gyda gwybodaeth